Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 16 Ionawr 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 12:44 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mike Hedges Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Andrew Goodall, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Dr Chris Jones, Bwrdd Iechyd Cwm Taf (Saesneg yn unig) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammed Asghar. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran.
2 Gofal heb ei drefnu: Sesiwn dystiolaeth
2.1 Holodd y Pwyllgor Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ynghylch gofal heb ei drefnu.
2.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ar nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn.
3 Gofal heb ei drefnu: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Holodd y Pwyllgor Dr Chris Jones o Fwrdd Iechyd Cwm Taf ynghylch gofal heb ei drefnu.
3.2 Cytunodd Dr Jones i anfon ymateb ysgrifenedig yn amlinellu'r sefyllfa bresennol o ran gweithredu argymhellion y Grŵp Llywio Cenedlaethol ar ofal y tu allan i oriau.
4 Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru
4.1 Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg, a'i nodi.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ganfod a ellir cyflawni'r gyfundrefn archwilio trawsffiniol heb ddeddfwriaeth.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Nodwyd y papurau.
5.1 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan David Sissling (9 Rhagfyr 2013)
5.2 Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf (20 Tachwedd 2013)
5.3 Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan (12 Rhagfyr 2013)
5.4 Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (11 Rhagfyr 2013)
5.5 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (13 Rhagfyr 2013)
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
6.1 Cytunwyd ar y cynnig.
7 Gofal heb ei drefnu: Trafod y dystiolaeth
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Gyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr GIG Cymru yn gofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion a godwyd yn y dystiolaeth.
8 Fferm Bysgod Penmon: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru
8.1 Cafodd y Pwyllgor ddogfen friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru a nododd fod dau adroddiad pellach yn cael eu paratoi ar faterion tebyg yn ymwneud â chyllid grant. Nododd y Pwyllgor hefyd fod disgwyl i Lywodraeth Cymru anfon adroddiad blynyddol ar reoli grantiau i'r Pwyllgor a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth pan fydd yr holl wybodaeth hon ar gael.
9 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod yr adroddiad drafft
9.1 Roedd gwybodaeth bellach am yr ymchwiliad hwn wedi dod i law gan Swyddfa Archwilio Cymru a ystyriwyd gan y Pwyllgor a bydd yr adroddiad yn adlewyrchu hyn. Trefnir amser i drafod adroddiad drafft yn ddiweddarach y mis hwn.
10 Memorandwm ar gyfer Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr a'r Memorandwm.